AWYDD wythnos mewn ty 3 llofft yn Ffrainc?

Neu be am grys wedi ei arwyddo gan dîm pêl-droed Cymru?

Englyn gan brifardd?

Carthen neu ddarn o gelf tecstilau?

Llawysgrif o Anfonaf Angel wedi ei lofnodi gan Robat Arwyn?

Mae cyfle i chi gynnig am y rhain a llawer mwy mewn Ocsiwn Addewidion nos Wener, Tachwedd 15 yng Nghlwb Rygbi Rhuthun (drysau yn agor 7pm).

Mae mynediad am ddim - ond cofiwch fynd â’ch llyfr siec neu arian parod!

Huw Hilditch Roberts a Sion Eilir fydd yr arwerthwyr, felly fe fydd hi'n noson hwyliog.

Os na fedrwch fynd, gallwch roi cynnig am eitemau cyn hanner dydd ar y diwrnod drwy e-bostio ocsiwnurddrhuthun@hotmail.com

Y penwythnos olynol, bydd llond llwyfan o ganu nos Sadwrn, Tachwedd 23 pan fydd Côr Meibion Caernarfon yn ymuno hefo Côr Rhuthun mewn cyngerdd yn Theatr John Ambrose, Rhuthun.

Bydd ’na forio canu gan y ddau gôr dan arweiniad Delyth Humphreys a Robat Arwyn. Mae'r tocynnau yn £10 ac ar gael o Elfair.

Trefnir y ddwy noson gan bwyllgor apêl Rhuthun at Eisteddfod yr Urdd 2020. Ceir rhagor o fanylion ar dudalen Facebook ‘Pwyllgor Apêl Rhuthun’